Comin:Cystadleuaeth Ffotograffau o Wyddoniaeth Ewrop 2015

From Wikimedia Commons, the free media repository
Jump to navigation Jump to search
This page is a translated version of a page Commons:European Science Photo Competition 2015 and the translation is 36% complete. Changes to the translation template, respectively the source language can be submitted through Commons:European Science Photo Competition 2015 and have to be approved by a translation administrator.
Outdated translations are marked like this.
Next competition will be held in November 2017. See more at wikisciencecompetition.org

Cysyniad

"Ni ellir dychmygu diwylliant Ewropeaidd heb wyddoniaeth!" Dyma'r cyfle i brofi hyn, ac i wneud hynny, gellir ei ddal gyda'r camera, a rhannu'r delweddau. I wneud hynny, rydym wedi creu cystadleuaeth ffotograffi. Mae'r gystadleuaeth gyntaf o'i bath yn cael ei lansio yn Nhachwedd 2015.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhan o Wicipedia gan fod Wicipedia yn amgylchedd sy'n ceisio hybu casglu a rhannu cynnwys addysgol yn rhydd ac am ddim i bawb. Dyna lwyfan gwerth chweil i arddangos lluniau am bethau gwyddonol. Mae mynediad agored, diddordeb mewn gwybodaeth a chymuned defnyddwyr Wicipedia, ac ymddiriedaeth gyffredinol - yn rhai o brif nodweddion y gwyddoniadur rhydd ac am ddim hwn. Mae'n ddull da i boblogeiddio gwyddoniaeth a ffotograffeg yn enwedig. Eisioes, mae safon uchel y ffotograffau sydd ar Wicipedia yn wybyddus drwy'r byd. Mae'r gystadleuaeth hon yn ddatblygiad naturiol ac yn ymgais i hybu'r safon hon ymhellach.

Rhwng 2011-2013 profwyd fod y cysyniad yn gweithio drwy Cystadleuaeth Ffotograffeg Gwyddoniaeth Estonia a dyma'r amser i godi stem ac i ehangu'r gorwelion. Penderfynodd cymuned Wicipedia greu cystadleuaeth byd-eang i'r perwyl hwn, er mwyn wella'r ochr wyddonol o fewn Wicipedia Cymraeg - a ieithoedd eraill - drwy ddefnyddio amgylchedd rhydd Wicipedia.

Cystadleuaeth Ffotograffau o Wyddoniaeth Ewrop 2015: bydd cystadleuthau lleol ym mhob gwlad sy'n cystadlu a bydd y trefnwyr lleol yn danfon y ffotograffau gorau ymlaen i'r rownd rhyngwladol. Bydd y ffeinal yn un Ewropeaidd, ond yn gyntaf mae angen mynd ati ar lefel lleol. Gwaith yr hyrwyddwyr lleol yw hybu'r gystadleuaeth, dewis y goreuon a chydweithio gyda'r partneriaid a'r noddwyr.

Pe bai angen gellir hepgor y gystadleuaeth leol, gan basio'r ffotograffau'n uniongyrchol i'r rownd derfynol. Y peth pwysig yw ein bod yn rhoi siawns i bawb sydd a chamera i fynd ati i gyfrannu gwaith am bethau gwyddonol.

Nodyn: Mae pob un o'r ffotograffau ar y dudalen hon wedi'u hychwanegu i Wicipedia/Comin Wicimedia yn ystod cystadleuaeth Ffotograffau Gwyddoniaeth Estonia.

Related blog posts