Welsh subtitles for clip: File:¿Qué es Wikipedia?.ogv

From Wikimedia Commons, the free media repository
Jump to navigation Jump to search
1
00:00:04,730 --> 00:00:05,500
Helo!

2
00:00:05,579 --> 00:00:07,683
Fy enw i yw Marina a hoffwn ddweud wrthoch chi am Wicipedia.

3
00:00:07,675 --> 00:00:09,855
Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol ohono ac yn ei ddefnyddio.

4
00:00:09,863 --> 00:00:13,112
Ond ydych chi'n gwybod ei gwir ystyr a phwrpas a sut mae'n cael ei greu?

5
00:00:13,360 --> 00:00:16,238
Er ei fod yn edrych fel gwyddoniadur gwahanol,

6
00:00:16,238 --> 00:00:18,786
mae'n rhannu'r un nod a gwyddoniaduron traddodiadol:

7
00:00:18,786 --> 00:00:22,445
"Dod a holl wybodaeth y byd ynghyd mewn dull systematig".

8
00:00:22,707 --> 00:00:25,442
Fodd bynnag, mae gan Wicipedia rhai gwahaniaethau pwysig

9
00:00:25,442 --> 00:00:27,378
o'i gymharu â gwyddoniaduron traddodiadol.

10
00:00:27,626 --> 00:00:31,743
Er enghraifft, mae'n cael ei ddatblygu gan filoedd o wirfoddolwyr

11
00:00:31,743 --> 00:00:35,355
gyda'r bwriad o wneud gwybodaeth ar gael i bob person ar y blaned,

12
00:00:35,355 --> 00:00:36,569
yn eu hiaith eu hunain.

13
00:00:36,831 --> 00:00:37,840
Sut mae cyflawni hyn?

14
00:00:38,229 --> 00:00:41,856
Pa reolau sy'n cadw trefn ar, ac yn arwain ''wicipedwyr''?

15
00:00:41,856 --> 00:00:43,769
Dyna yw testun y fideo yma.

16
00:00:49,000 --> 00:00:52,800
Gall unrhyw un ychwanegu neu gywiro cynnwys Wicipedia

17
00:00:52,900 --> 00:00:55,800
ond mae'n rhaid cydnabod mai gwyddoniadur ydyw o hyd,

18
00:00:55,792 --> 00:00:59,738
felly ni dderbynnir ymchwil na thraethodau gwreiddiol yma.

19
00:00:59,746 --> 00:01:02,389
Rhaid i erthyglau gyfleu diddordeb cyffredin,

20
00:01:02,389 --> 00:01:05,572
a dylant osgoi gwybodaeth ddarfodedig - gwybodaeth dros dro.

21
00:01:05,572 --> 00:01:07,342
Dyna yw'r rheol gyntaf oll,

22
00:01:07,342 --> 00:01:08,794
neu, fel y caiff ei alw gan Wicipedwyr,

23
00:01:08,794 --> 00:01:12,009
"Y Golofn Cyntaf" yn y modd mae'r gwyddoniadur hwn yn gweithio.

24
00:01:13,100 --> 00:01:15,855
Mae llawer o wirfoddolwyr yn ysgrifennu i'r gwyddoniadur hwn.

25
00:01:15,855 --> 00:01:18,094
Pobl o gefndiroedd gwahanol,

26
00:01:18,094 --> 00:01:19,015
gydag amrywiaeth o gredoau,

27
00:01:19,015 --> 00:01:20,365
a gyda syniadau gwahanol.

28
00:01:20,900 --> 00:01:24,900
Ni ddylai Wicipedia goleddu safbwynt fel un ei hun;

29
00:01:25,150 --> 00:01:28,650
ond dylai wneud ymdrech i gynnwys yr holl safbwyntiau posib.

30
00:01:28,900 --> 00:01:31,487
Dyna pam yr enwir yr ail golofn yn

31
00:01:31,487 --> 00:01:33,487
"Safbwynt Diduedd".

32
00:01:35,000 --> 00:01:38,321
Mae'r trydedd golofn yn dangos bod cynnwys Wicipedia am ddim.

33
00:01:38,527 --> 00:01:42,060
Mae'r testunau ar gael i'w defnyddio, eu newid, a'u dosbarthu ar gyfer unrhyw bwrpas,

34
00:01:42,060 --> 00:01:44,186
cyn belled a bod y ffynhonnell yn cael ei phriodoli'n gywir

35
00:01:44,186 --> 00:01:46,164
a bod yr un drwydded hawlfraint "Creative Commons" yn cael ei chadw.

36
00:01:46,350 --> 00:01:49,600
Gall trwyddedu amrywio o ran delweddau

37
00:01:49,850 --> 00:01:52,600
ond caniateir copio ac ail-ddefnyddio o hyd.

38
00:01:53,300 --> 00:01:56,300
Yn yr achosion hyn, dylai pob trwydded berthnasol gael ei darllen

39
00:01:56,300 --> 00:01:58,500
er mwyn deall ystod rhyddid y drwydded ayb.

40
00:02:01,500 --> 00:02:04,300
Gall rhyngweithio rhwng cymaint o bobl achosi dadlau.

41
00:02:04,550 --> 00:02:08,650
Felly, y bedwaredd Golofn yw y dylai defnyddwyr fod yn barchus o'i gilydd,

42
00:02:08,650 --> 00:02:10,200
a thybio ewyllys da pob tro.

43
00:02:10,200 --> 00:02:13,900
Mae goddefgarwch a boneddigeiddrwydd yn sylfaenol i'r prosiect.

44
00:02:16,800 --> 00:02:19,500
Does gan Wicipedia ddim rheolau cadarn.

45
00:02:19,579 --> 00:02:20,889
A gall hyn ymddangos yn od!

46
00:02:20,897 --> 00:02:23,309
Dyma yw pumed Golofn y gwyddoniadur hwn.

47
00:02:23,309 --> 00:02:26,664
Er mwyn i chi gymryd rhan, dim ond synnwyr cyffredin

48
00:02:26,664 --> 00:02:30,082
a pharch tuag at Wicipediaid eraill sydd eu hangen ar yr anturiaeth!

49
00:02:30,450 --> 00:02:32,500
Gall pawb gyfrannu rhywbeth.

50
00:02:32,750 --> 00:02:34,750
Mae rhai pobl yn datblygu erthyglau cymhleth a chyflawn

51
00:02:34,750 --> 00:02:37,300
tra bod eraill yn cywiro gwallau sillafu bychan.

52
00:02:37,300 --> 00:02:40,000
Gallwch hefyd helpu wrth greu, golygu a chywiro erthyglau.

53
00:02:40,780 --> 00:02:42,296
Mae'n bosib dadwneud golygiadau.

54
00:02:42,296 --> 00:02:46,425
Felly os ydych yn gwneud rhywbeth yn anghywir mae'n bosib dychwelyd at y fersiwn blaenorol.

55
00:02:46,425 --> 00:02:48,625
Byddwch yn ddewr! Byddwch yn Wicipediad!