Commons:Croeso

From Wikimedia Commons, the free media repository
(Redirected from Commons:Croeso)
Jump to navigation Jump to search
This page is a translated version of a page Commons:Welcome and the translation is 69% complete. Changes to the translation template, respectively the source language can be submitted through Commons:Welcome and have to be approved by a translation administrator.
Outdated translations are marked like this.

Beth yw Comin Wikimedia?

Storfa deunydd megis delweddau a sain yw Comin Wikimedia. Gwirfoddolwyr di-dâl sy'n cynnal y Comin. Deillia'r enw "Comin Wikimedia" o enw'r prosiect cydlynol "Wikimedia" sy'n cydlynu'r holl brosiectau Wikimedia eraill ac o'r enw comin (neu "commons" yn Saesneg) gan y rhennir cynnwys y Comin rhwng prosiectau mewn amryw o ieithoedd ac o amryw fath. Mae'n cynnig storfa ganolog ar gyfer deunydd megis ffotograffau, diagramau, animeiddiadau, cerddoriaeth, testunau ar lafar, fideo a chyfryngau o unrhyw fath sydd o ddefnydd i unrhyw brosiect Wikimedia ac wedi ei drwyddedi'n rhydd.

Defnyddia Comin Wikimedia yr un dechnoleg wici â Wicipedia gan alluogi unrhyw gyfrannwr i olygu tudalen yn rhwydd, heb sgiliau technegol uwch. Gwneir y gwaith golygu o fewn y porwr gwe ei hunan. Unwaith y caiff ffeil ei uwchlwytho ar Gomin Wikimedia gellir ei arddangos ar unrhyw brosiect Wikimedia arall trwy osod dolen gyswllt i'w fangre ar Gomin Wikimedia. Nid oes rhaid uwchlwytho'r ffeil i'r prosiect fel y byddai raid er mwyn arddangos ffeil o unrhyw chwaer-prosiect arall.

Cychwynwyd Comin Wikimedia ar Fedi 7, 2004. Erbyn hyn cynhwysa'r storfa 104,933,549 ffeil a $2 casgliad. Ceir rhagor o wybodaeth am brosiect Comin Wikimedia yn yr ymwadiad cyffredinol ar y dudalen am Gomin Wikimedia ar Meta-wici.

Yn wahanol i lawer i gasgliad arall o ffeiliau cyfryngau ar y we mae deunydd Comin Wikimedia ar gael yn rhad ac am ddim. Caiff unrhywun gopïo'r ffeiliau hyn, eu defnyddio a'u golygu fel y mynnoch cyhyd â'ch bod yn cydnabod ffynhonnell ac awduron y deunydd a chyhyd â'ch bod yn ail-gyhoeddi'r deunydd o dan yr un un amodau. Mae gan gronfa ddata Comin Wikimedia ei hunan a'r testun ynddi drwydded "GNU Free Documentation License". Cyhoeddir amodau trwydded pob ffeil cyfryngau ar ei thudalen ddisgrifiad. Rhagor o wybodaeth ar amodau defnydd...

Ymunwch yn y gwaith

Gallwch wella Comin Wikimedia trwy gyfrannu yn ôl eich gallu:

Cyfrannu'ch gwaith

Os ydych yn ffotograffydd da mae croeso ichi gyfrannu'ch lluniau. Os ydych yn ddylunydd da chwiliwch pa ddiagramau ac animeiddiadau sydd mwyaf o'u hangen. Os ydych yn gerddor da neu'n artist ffilm neu theatr dda croeso ichi gyhoeddi eich recordiau eich hunan o'ch perfformiadau rhad yma.

Cyfrannu'ch doniau

Mae llawer o waith pwysig i'w wneud yma heblaw am gyfrannu ffeiliau:

Cyfrannu'ch amser

Hyd yn oed os nad ydych yn artistig neu'n arbenigwr ar ryw agwedd ar y wefan mae digon o waith i'w wneud yn cael trefn o anrhefn.

Tour

Cofrestri

Rhaid mewngofnodi cyn gallu uwchlwytho ffeiliau ar Gomin Wikimedia. Gallwch agor cyfrif defnyddiwr trwy bwyso ar y cyswllt "Log in / create account" yn y gornel dde ar ben y dudalen hon. Cewch greu enw defnyddiwr i'w ddefnyddio wrth wneud unrhyw waith ar y Comin. Er ei bod yn bosib golygu tudalennau heb eich bod wedi mewngofnodi fe'ch annogir i fewngofnodi wrth weithio ar y Comin.

Gwers y camau cyntaf

Wedi ichi fewngofnodi gallwch fynd at y ffeil gymorth ar y camau cyntaf a'r ffeil o gwestiynau poblogaidd i'ch rhoi ar ben ffordd. Ceir ynddynt eglurhad ar sut i addasu'r rhyngwyneb at eich bodd (e.e. yr iaith rhyngwyneb (ond noder mai ar y gweill mae'r rhyngwyneb yn Gymraeg ac ar hyn o bryd mae'n cynnwys llawer o Saesneg a Chymraeg gwallus)), sut i uwchlwytho ffeiliau ac eglurhad o hanfodion ein polisi trwyddedu. Nid oes angen sgiliau technegol i gyfrannu yma. Bwrw'ch ati'n hyf gan gymryd bod cyfrannwyr eraill yn ddidwyll eu hamcan. Gan mai wici yw hwn mae'n hawdd ei drin.

Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalennau Porth y Gymuned. Gallwch holi rhagor o gwestiynnau ar dudalennau'r 'Village Pump' neu ar y sianel IRC #wikimedia-commons webchat. Ar hyn o bryd dim ond tudalen yr hafan a'r dudalen hon sydd ar gael yn Gymraeg ar Gomin Wikimedia.

Trefnir ffeiliau Comin Wikimedia mewn categorïau ac orielau. Ceir braslun o'r categorïau a ddefnyddir ar yr hafan.

Put Babel boxes on your user page so others know what languages you can speak and indicate your graphic abilities. All your uploads are stored in your personal gallery. Please sign your name on Talk pages by typing ~~~~. If you're copying files from another project, be sure to use the FileImporter.

Gwasanaethau a meddalwedd arall

Os tybiwch o hyd bod cyfrannu deunydd yn rhy gymhleth neu os oes llwyth mawr o ddeunydd ganddoch i'w uwchlwytho gallwch alw ar y gwasanaeth uwchlwytho ffeiliau sy'n galluogi gwirfoddolwyr eraill i lwytho'ch ffeiliau drostoch. Os ydych am lwytho nifer fawr o ddelweddau eich hunan gallwch ddefnyddio'r rhaglen 'Commonist' at y gwaith hynny. Os ydych am wybodaeth manwl ar yr offer arddangos neu golygu fe'i cewch ar dudalen y meddalwedd.

Ein gobaith yw y gwnewch fwynhau treulio amser ar Gomin Wikimedia.

Meta-Wici Meta-Wici - Cyd-drefniant Wicipedia Wicipedia - Gwyddoniadur Wiciadur Wiciadur - Geiriadur Wicilyfrau Wicilyfrau - Gwerslyfrau
Wicidestun Wicidestun - Ffynonellau Wiciddyfynnu Wiciddyfynnu - Dyfyniadau Wicirywogaeth Wicirywogaeth - Rhywogaethau Wikinews Wikinews - Newyddion